Gaius Marius
Oddi ar Wicipedia
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Gaius Marius (157 CC–13 Ionawr, 86 CC). Etholwyd ef i swydd Conswl Rhufeinig saith gwaith, mwy na neb o'i flaen, a gwnaeth newidiadau pellgyrhaeddol i fyddin Rhufain.
Ganed Marius yn nhref Arpinum yn ne Latium. Yn 134 CC, roedd yn y fyddin yn ymladd yn Numantia, a daeth i sylw Publius Cornelius Scipio Aemilianus Africanus. Etholwyd ef yn dribwn milwrol ac yn ddiweddarach i swydd quaestor. Yn 120 CC etholwyd ef yn dribwn y bobl am y flwyddyn ddilynol. Yn 116 CC etholwyd ef i swydd praetor, ac yn 114 CC gyrrwyd ef i lywodraethu talaith Lusitania. Wedi dychwelyd i Rufain, priododd Julia, modryb Iŵl Cesar.
Yn 109 CC apwyntiwyd Quintus Caecilius Metellus i ymgyrchu yn erbyn Jugurtha yn Ngogledd Affrica, ac aeth a Marius gydag ef fel legad. Yn fuan wedyn bu ffrae rhwbng y ddau. Gofynnodd Marius i Metellus am ganiatad i'w gynnig ei hun i'w ethol fel conswl, ond dywedodd Metellus y dylai ddisgwyl nes gallai sefyll etholiad ar y cyd a mab Metellus. Gan na fyddai mab Metellus yn ddigon hen i'w ethol fel conswl am ugain mlynedd arall, dechreuodd Marius ymgais i droi'r cyhoedd yn erbyn Metellus. Yn 108 CC etholwyd ef yn gonswl am y flwydduyn ddilynol, a diswyddwyd Metellus i wneud Marius yn bennaeth y fyddin oedd yn ymladd a Jugurtha.
Fel conswl yn 107 CC gwnaeth Marius newidiadau pwysig i'r fyddin. Hyd hynny ni chai neb wasanaethu yn y llengoedd os nad oedd yn berchen eiddo gwerth o leiaf 3000 o sesterces, ac roedd rhaid i bob milwr ddarparu ei arfau eu hunain. Newidiodd Marius y rheolau i ganiatau i bawb wasanaethu, hyd yn oed y tlodion.
Diweddwyd y rhyfel yng Ngogledd Affrica pan ffodd Jugurtha at Bocchus, brenin Mauretania. Llwyddodd quaestor Marius, Lucius Cornelius Sulla, i berswadio Bocchus i drosglwyddo Jugurtha i'r Rhufeiniaid fel carcharor.
Yn 109 CC roedd llwyth Almaenig y Cimbri wedi ynosod ar Gâl a gorchfygu byddin Rufeinig dan Marcus Junius Silanus. Yn 107 CC gorchfygwyd y conswl Lucius Cassius Longinus. Gorchfygodd y Cimbri a'r Teutones fyddin Rufeinig arall ym Mrwydr Arausio yn 105 CC, gyda lladdfa enfawr. Erbyn hyn roedd yr Eidal ei hun mewn perygl, ac etholwyd Marius yn gonswl eto yn 105 CC ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Dychwelodd i Rufain yn 104 CC, ac etholwyd ef yn gonswl bum gwaith yn olynol yn y blynyddoedd nesaf.
Yn 102 CC ymosododd y Cimbri a'r Teutones ar yr Eidal. Gorchfygodd Marius y Teutones ym Mrwydr Aquae Sextiae; dywedir iddo ladd dros 100,000 ohonynt. Yn 101 CC ymunodd a'r conswl arall, Quintus Lutatius Catulus, a gorchfygasant y Cimbri ger Vercellae yn nhalaith Gallia Cisalpina. Lladdwyd o leiaf 65,000.
Ymddeolodd Marius o fywyd cyhoeddus am gyfnod, ond dychwelodd i ymladd yn Rhyfel y Cyngheiriaid (91–88 CC). Yn fuan wedi diwedd y rhyfel yma, ymosododd Mithridates brenin Pontus ar Wlad Groeg. Roedd Sulla wedi ei ethol yn gonswl am 88 CC, ac eisoes yn paratoi i gychwyn tua'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn Mithridates pan lwyddodd Marius, gyda chymorth Publius Sulpicius Rufus, i gael ei enwi yn gadfridog i gymeryd lle Sulla. Gadawodd Sulla Rufain, a dychwelyd gyda chwech lleng i feddiannu'r ddinas. Gorfodwyd Marius i ffoi i Ogledd Affrica.
Gadawodd Sulla a'i fyddin am y dwyrain, a thra'r oedd i ffwrdd bu ymladd yn Rhufain rhwng ei gefnogwyr ef a chefnogwyr Marius. Roedd Lucius Cornelius Cinna wedi ei ethol yn gonswl, a dychwelodd Marius a'i fab i Rufain gyda byddin. Enillodd ef a Cinna reolaeth ar Rufain a dechrau dienyddio canlynwyr Sulla. Enwyd Marius yn gonswl am y seithfed tro. Fodd bynnag, dim ond mis ar ôl dychwelyd i Rufain, bu Marius farw yn 71 oed.