Dwynwen
Oddi ar Wicipedia
Nawddsantes cariadon Cymru yw Dwynwen Dethlir diwrnod Dwynwen ar 25 Ionawr trwy i gariadon anfon cardiau i'w gilydd.
Cysylltir Dwynwen ag Ynys Môn a rhoddodd ei henw i eglwys ar Ynys Llanddwyn (Niwbwrch) ac ym mhlwyf Llanddwyn ei hun. Ceir eglwysi cysegredig iddi ym Morgannwg yn ogystal.
Yn ôl y chwedl, roedd Dwynwen mewn cariad â Maelon ond roedd ei thad am iddi briodi tywysog arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon hi. Gweddïodd Dwynwen ar i Dduw ei ryddhau o'i chariad at Maelon ac fe roddwyd tri dymuniad iddi. Yn gyntaf gofynnodd am i Maelon gael ei ddadmer, gan ei fod ynghynt wedi ei rewi gan angel. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb gweddiau y gwir gariadon a oedd yn gofyn iddi am atebion ac yn drydydd gofynnodd am beidio a phriodi byth Ar ôl i'w dymuniadau cael eu gwireddu, penderfynnodd Dwynwen wasanaethu ac ymdynghedu i Dduw weddill ei hoes. Fe aeth Santes Dwynwen i fyw ar Ynys Llanddwyn ger traeth Niwbwch tan ei marwolaeth yn 460 OC