Disgfyd
Oddi ar Wicipedia
Cyfres o nofelau ffantasi comig yw llyfrau'r Disgfyd (Saesneg: Discworld) a ysgryfennwyd gan y nofelydd Saesneg, Terry Pratchett. Mae'r gyfres wedi ei osod ar fyd fflat sydd wedi ei gydbwyso ar gefn pedwar eliffant sydd yn eu tro yn sefyll ar gefn crwban enfawr, Great A'Tuin, sy'n nofio trwy'r gofod. Mae'r llyfrau yn aml yn gwatwar neu benthyg syniadau o J. R. R. Tolkien, Robert E. Howard, H. P. Lovecraft, a William Shakespeare, yn ogystal â chwedlau a llen werinol. Bydd Pratchett yn aml yn cyfosod yr rhain gyda materion diwylliannol, technolegol a gwyddonol i'w satireiddio.
Ers y nofel gyntaf, The Colour of Magic (1983), mae'r gyfres wedi ehangu, gyda nifer o fapiau, straeon byr, cartŵn ac addasiadau drama yn cael eu cyhoeddi. Darlledwyd yr addasiad drama gyntaf ar gyfer teledu (cyfres ddwy-ran o'r Hogfather) dros y Nadolig 2006. Mae yna gynlluniau i greu addasiadau ffilm ar gyfer rhai o'r llyfrau Disgfyd eraill.
Mae'r nofelau Disgfyd yn aml ar frig rhestrau archwerthwr llyfrau yn y Deyrnas Unedig, a Terry Pratchett oedd awdur mwyaf llwyddiannus yr 1990au (ac yr awdur mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig cyn i J.K. Rowling (awdures Harry Potter) ei oddiweddid). Mae'r llyfrau Disgfyd hefyd wedi ennill nifer o wobreuon fel y wobr Prometheus a'r fedal Carnegie. Yn rhestr Big Read y BBC, roedd pedwar llyfr Disgfyd yn y 100 uchaf, a cyfanswm o undeg pedwar llyfr yn y 200 uchaf.
[golygu] Nofelau
Yn bresennol, mae yna 35 llyfr yn y gyfres Ddisgfyd (yn cynnwys 4 llyfr i blant/oedolion ifanc). Roedd gan yr argraffiadau Prydeinig gwreiddiol o'r 26 llyfr gyntaf gelf clawr nodedig gan y darluniwr Josh Kirby. Ers marwolaeth Josh Kirby yn 2001, mae llyfrau newydd Disgfyd ers The Last Hero wedi eu darlunio gan Paul Kidby, ac mae argraffiadau diweddar o'r llyfrau cynnar yn defnyddio celf glawr mwy minimalaidd i apelio tuag at fwy o oedolion.
Mae nifer o'r nofelau gyda'r un prif gymeriadau ac yn dangos eu datblygiad dros amser. Yn ogystal a hynny, bydd nifer o gymeriadau'n gwneud ymddangosiadau cameo mewn llyfrau eraill lle nad ydynt yn un o'r brif gymeriadau. Er fod dim ffurf swyddogol i grwpio'r nofelau, gellir eu rhannu i mewn i îsgyfresau sy'n dilyn nifer o archau storiau a cymeriadau tebyg:
- Storiau Rincewind.
- Storiau'r dewiniau.
- Storiau'r gwrachod.
- Storiau Marwolaeth.
- Storiau'r City Watch.
- Storiau Tiffany Aching.
- Storiau amrywiol.
|
|
---|---|
Cymeriadau: |
Tiffany Aching • Albert • Captain Carrot • Otto von Chriek • Cohen the Barbarian • Cut-Me-Own-Throat Dibbler • Detritus • Gaspode • Greebo • Hex • History Monks • Igor • Bloody Stupid Johnson • Leonard of Quirm • The Librarian • Moist von Lipwig • Lu-Tze • The Luggage • Mort and Ysabell • Nac Mac Feegle • C.W. St J. Nobbs • Nanny Ogg • Mustrum Ridcully • Rincewind • Ponder Stibbons • Susan Sto Helit • General Tacticus • Twoflower • Verence II of Lancre • Havelock Vetinari • Samuel Vimes • Lady Sybil Vimes • Granny Weatherwax • The Witches • The Wizards mwy... |
Gemau: |
Stealth Chess • Cripple Mr Onion • Thud (gêm) |
Duwiau: |
Death • The Great God Om • Discworld gods • Small gods • Anthropomorphic personifications • Auditors of Reality |
Lleoliadau: |
Discworld (world) • Ankh-Morpork • Agatean Empire • Djelibeybi • Ephebe • Fourecks • Genua • Klatch • Lancre • Quirm • Sto Lat • Überwald • Unseen University (members) • Other dimensions • mwy... |
Sefydliadau: |
City Watch (members) • Thieves' Guild • Assassins' Guild (members) • Beggars' Guild • Post Office (members) • Clacks (members) • Fools' Guild • Gildiau Eraill |
Eraill: |
Cysyniadau dibwys y Disgfyd |
|
|
---|---|
Nofelau: |
The Colour of Magic – The Light Fantastic – Equal Rites – Mort – Sourcery – Wyrd Sisters – Pyramids – Guards! Guards! – Eric – Moving Pictures – Reaper Man – Witches Abroad – Small Gods – Lords and Ladies – Men at Arms – Soul Music – Interesting Times – Maskerade – Feet of Clay – Hogfather – Jingo – The Last Continent – Carpe Jugulum – The Fifth Elephant – The Truth – Thief of Time – The Last Hero – The Amazing Maurice and his Educated Rodents – Night Watch – The Wee Free Men – Monstrous Regiment – A Hat Full of Sky – Going Postal – Thud! – Wintersmith – Making Money – I Shall Wear Midnight |
Storïau Byr: |
"Troll Bridge" – "Theatre of Cruelty – "The Sea and Little Fishes" – "Death and What Comes Next" – "A Collegiate Casting-Out of Devilish Devices" |
Llyfrau Eraill: |
The Discworld Companion – The Science of Discworld – The Science of Discworld II: The Globe – The Science of Discworld III: Darwin's Watch – The Pratchett Portfolio – The Art of Discworld – The Unseen University Challenge – The Wyrdest Link – The Streets of Ankh-Morpork – The Discworld Mapp – A Tourist Guide to Lancre – Death's Domain – Nanny Ogg's Cookbook – The Discworld Almanak – Where's My Cow? – The Unseen University Cut Out Book – The Discworld Diaries – Once More* With Footnotes – Wit and Wisdom of Discworld |
Gemau: |
The Colour of Magic – Cripple Mr Onion - Discworld – Discworld 2 – Discworld MUD – Discworld Noir – GURPS Discworld – Stealth Chess – Thud |