David Ben-Gurion
Oddi ar Wicipedia
Prif weinidog cyntaf Israel oedd David Ben-Gurion (Hebraeg:דָּוִד בֶּן-גּוּרִיּוֹן, ganed fel David Grün 16 Hydref 1886 - 1 Rhagfyr 1973).
Ganed Ben-Gurion yn Płońsk, Gwlad Pwyl yn awr, ond yr adeg honno yn than o'r Ymerodraeth Rwsaidd. Cyfreithiwr oedd ei dad, Avigdor Grün; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i Seioniaeth. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i Istanbul i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.
Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r Ymerodraeth Ottomanaidd, ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn Efrog Newydd, lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn Datganiad Balfour yn Nhachwedd 1917, ymunodd a Lleng Iddewid y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth Brydeinig, ar ddiwedd y rhyfel. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol, gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig Histadrut, ac o 1930 ymlaen yn arweinydd Mapai, y blaid lafur Seionaidd.
Cyhoeddodd Ben Gurion sefydliad gwladwriaeth Israel ar 14 Mai 1948, a daeth yn Brif Weinidog y wlad newydd. Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd a ddilynodd. Heblaw am gyfnod o ddwy flynedd rhwng 1954 a 1955, bu yn y swydd hyd 1963. Ymddiswyddodd yn 1963, a dilynwyd ef gan Levi Eshkol. Ffraeodd ag Eshkol y flwyddyn wedyn, a ffurfiodd blaid newydd, Rafi, a enillodd ddeg sedd yn y Knesset. Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1970.