Cystennin I
Oddi ar Wicipedia
Caius Flavius Valerius Aurelius Claudius Constantinus Ymerawdwr Rhufain |
|
---|---|
Dyddiad Geni | 27 Chwefror 272 |
Man Geni | Naissus |
Dyddiad Marwolaeth | 22 Mai 337 |
Man Marwolaeth | Ancycrona |
Cystennin I,enw llawn Caius Flavius Valerius Aurelius Claudius Constantinus, a adnabyddir hefyd fel Cystennin Mawr , oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 306 a 337. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd gyfreithlon yn yr ymerodraeth.
Ganed Cystennin yn Naissus (Niš heddiw), yn fab i Constantius Chlorus a’i wraig gyntaf Helena (sail cymeriad Elen Luyddog yn y traddodiad Cymreig efallai). Ysgarodd Constantius Helena yn 292 i briodi Flavia Maximiana Theodora, merch yr ymerawdwr Maximianus. Bu Cystennin yn gwasanaethu yn llys yr ymerawdwr Diocletian yn Nicomedia wedi i’w dad gael ei enwi un un o’r ddau “Gesar” (is-ymerodron). Yn 305 ymddeolodd Diocletian a [Maximianus, a daeth tad Cystennin yn un o’r ddau “Augustus”. Bu farw Constantius yn Efrog ar 25 Gorffennaf 306. Yr oedd Cystennin gydag ef ar y pryd, a chyhoeddwyd ef yn “Augustus” gane i lengoedd.
Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym Mrwydr Pont Milvius (312) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym Mrwydr Adrianople ( 323) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, Licinius, a dod yn unig ymerawdwr (‘’Totius orbis imperator’’).
Dywedir I Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw Cyngor Nicea a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas Byzantium fel Caergystennin (‘’Constantini-polis’’), Istanbul heddiw.
Bu Cystennin yn gyfrifol am lawer o newidiadau yng nghyfreithiau Rhufain, a cheisiodd wahanu y llywodraeth sifil a’r fyddin, I leihau dylanwad gwleidyddol y cadfridogion.
Ar ffiniau’r ymerodraeth enillodd Cystennin fuddugoliaethau dros y Ffranciaid a’r Alemani (306-308), dros y Ffranciaid eto (313-314), dros y Visigothiaid yn 332 a thros y Sarmatiaid yn 334. Erbyn 336 yr oedd wedi adennill rhan helaeth o dalaith Dacia, nad oedd wedi bod yn rhan o’r ymerodraeth ers teyrnasiad Aurelian yn 271. Pan fu farw yr oedd yn cynllunio ymgyrch yn erbyn y Persiaid.
Dilynwyd ef gan ei dri mab o’i briodas a Fausta: Cystennin II, Constantius I a Constantius II.
O'i flaen : Constantius Chlorus a Galerius |
Ymerodron Rhufain Cystennin I |
Olynydd : Cystennin II, Constantius I a Constantius II. |