Clwb Ifor Bach
Oddi ar Wicipedia
Clwb nos poblogaidd yn ninas Caerdydd yw Clwb Ifor Bach. Sefydlwyd y clwb gan aelodau'r gymuned Gymraeg yn y ddinas, gan gynnwys Owen John Thomas. Sefydlwyd y clwb yn yr 1970au. Fe'i enwir er cof am Ifor Bach a'i herwgipiad enwog yng Nghastell Caerdydd yn y 12fed ganrif, ond adnabyddir y lle yn aml fel y Clwb neu yn Saesneg fel The Welsh Club.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Lleoliad
Lleolir y clwb yng nghanol Caerdydd, hanner ffordd i lawr Stryd Womanby, sy'n rhedeg o'r castell yn gyfochrog â Stryd y Santes Fair. Ar bob pen y stryd mae tafardai'r City Arms sy'n edrych tuag at Stadiwm y Mileniwm a'r tafarn Gwyddelig, Dempsey's sy'n edrych tuag at Gastell Caerdydd. Mae'r clwb bron gyferbyn a chefn tafarn Wetherspoons, 'The Gatekeeper' ar Stryd Westgate.
[golygu] Hanes
Yn wreiddiol, clwb ar gyfer aelodau'n unig oedd e, a chyfyngwyd yr aelodaeth i siaradwyr Cymraeg yn unig, neu'r rheiny a oedd yn dysgu. Diddymwyd hyn yn yr 1990au, ond ar adegau prysur, er engraifft yn ystod gemau rygbi rhyngwladol, a gall y clwb dderbyn aelodau'n unig er mwyn peidio a siomi eu aelodau.
[golygu] Yr Adeilad
Mae'r adeilad diymhongar yn dri llawr; gyda bar, llwyfan a llawr dawnsio ar bob lefel, yn amrywio o ran maint, y llawr uchaf yw'r mwyaf. Cafodd y clwb ei ailwampio yn ystod yr 1990au.
[golygu] Cerddoriaeth
Mae'r clwb wedi bod yn ran parhaol o sîn cerddoriaeth Caerdydd. Mae cerddoriaeth fyw ar lwyfannau'r clwb yn aml. Mae hefyd nosweithiau thema wythnosol rheolaidd, gydag un llawr wedi ei neilltuo ar gyfer math arbennig o gerddoriaeth ar gyfer y noson. Ceir amrediad eang o gerddoriaeth megis reggae, gwerin, hip-hop, pop, roc, cerddoriaeth Gymraeg ac yn y blaen. Yn ogystal a thâl aelodaeth, mae hefyd tâl mynediad ychwanegol ar y drws ar adegau, ar gyfer lloriau neu fandiau arbennig.
[golygu] Digwyddiadau
Rhestrir digwyddiadau ar wefan y clwb ac ar yr hysbysfwrdd yn y cyntedd. Yn ogystal a digwyddiadau cerddorol, mae cyfarfodydd cymdeithasol megis clybiau dysgwyr, nosweithiau ymddiddan a gwylio Rygbi ar y sgrin fawr. Defnyddir y clwb hefyd gan gwmniau teledu ar gyfer sgrinio rhaglenni prawf.