Catterick
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Swydd Gogledd Efrog yng ngogledd Lloegr yw Catterick, fe'i gelwir weithiau yn Catterick Village i'w wahaniaethu oddi wrth wersyll y fyddin gerllaw, "Catterick Garrison". Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,743.
Dyddia'r pentref o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd Cataractonium yn gaer Rufeinig yn gwarchod y groesfan dros Afon Swale. Cyfeirir ar y lle yn Geographia Ptolemy fel Κατουρακτονιον.
Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai Catterick yw Catraeth, lle bu brwydr rhwng teyrnas y Gododdin a'r Eingl tua'r flwyddyn 600. Clodfodir yr arwyr a syrthiodd yn y frwydr hon yn y gerdd Y Gododdin gan Aneirin. Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19eg ganrif oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick oedd "Catraeth" y Gododdin. Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny.