Thomas Stephens
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd, beirniad ac awdur Cymreig oedd Thomas Stephens (21 Ebrill 1821 - 4 Ionawr 1875). Ganed ef ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg, yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref Merthyr Tydfil yn 1835. Yn ddiweddarach daeth y berchen y siop fferyllydd ac yn ŵr amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd llyfrgell Merthyr.
Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn 1848 enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch, The Literature of the Kymry. Yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan Madog am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch.
[golygu] Cyhoeddiadau
- The Literature of the Kymry (1849)
- The History of the Trial by Jury in Wales
- Orgraff yr Iaith Gymraeg (gyda Gweirydd ap Rhys) (1859)
- Madoc: an Essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century (1893)