Carcassonne
Oddi ar Wicipedia
Dinas gaerog yn département Aude yn Languedoc, Ffrainc yw Carcassonne (Occitaneg: Carcassona). Saif tua 90 km (56 milltir) i'r de-ddwyrain o Toulouse. Mae dwy ran i'r dref fodern, y rhan gaerog, Cité de Carcassonne, a'r dref tu allan i'r muriau, y ville basse.
Sefydlwyd y safle fel oppidum Celtaidd dan yr enw Carsac. Adeiladodd y Rhufeiniaid amddiffynfeydd yma, ac enwi'r dref yn Colonia Julia Carsaco. Adeiladwyd amddiffynfeydd eraill gan Theodoric II, brenin y Fisigothiaid, a feddiannodd y dref yn 453.
Daeth Carcassonne yn adnabyddus am ei rhan yn y Groesgad Albigensaidd, pan amddiffynid y gaer gan y Cathariaid. Yn Awst 1209 cipiwyd y ddinas gan fyddin Simon de Montfort.
Adferwyd yr amddiffynfeydd o 1853 ymlaen gan y pensaer Eugène Viollet-le-Duc, ac yn 1997 fe'u henwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.