Basilica Sant Pedr
Oddi ar Wicipedia
Eglwys yn y Fatican yn ninas Rhufain yw Basilica Sant Pedr (Lladin:Basilica Sancti Petri, Eidaleg: Basilica di San Pietro in Vaticano). Fe'i hystrir yn un o adeiladau pwysicaf Cristionogaeth. Yn ôl traddodiad, fe'i hadeiladwyd dros y fan lle claddwyd Sant Pedr.
Bu eglwys ar y safle yma ers y 4edd ganrif. Dechreuwyd y gwaith ar yr adeilad presennol, i gymeryd lle adeilad Cystennin, ar 18 Ebrill, 1506, ac fe'i gorffenwyd yn 1626.
Claddwyd llawer o Babau yn yr eglwys, ac mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i bererinion. Ceir gwaith llawer o benseiri ac arlunwyr enwog ar a thu mewn i'r adeilad, yn fwyaf nodedig Michelangelo. Gall ddal 60,000 o bobl.