Al-lâh
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gyfres ar |
|
---|---|
Athrawiaeth |
|
Arferion |
|
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
|
Hanes & Arweinwyr |
|
Ahl al-Bayt · Sahaba |
|
Testunau & Deddfau |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
Sunni · Shi'a | |
Diwylliant & Cymdeithas |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
Islamophobia · Termau Islamig |
|
Allah neu Al-lâh yw enw Duw yn Islam; "Duw" neu "Arglwydd" yn Arabeg. Cywasgiad o'r fannod al a'r enw ilâh "duw".
Yn ystod y cyfnod cyn-Islamaidd yn y Dwyrain Canol, yn arbennig yn nheyrnasoedd De Arabia, roedd y syniad o Dduw goruchaf eisoes yn cael ei gynrychioli gan y gair Allah (enw gwrywaidd yw allâh ond ceid hefyd y gair benywaidd allâaha neu al-Lât); roedd yno duw Arabaidd o'r un enw hefyd. Ceir yr enw Allah yn y ffurf Semitaidd HLH mewn arysgrifau o Balesteina sy'n dyddio o'r 5fed ganrif CC. Fe'i ceir hefyd yn y ffurf Hallâh mewn arysgrif o Saffa yn Yemen o'r ganrif 1af a hefyd mewn arysgrif Gristionogol o Umm al-Jima yn Syria o'r 7fed ganrif. Addolwyd Hallâh ym Mecca fel un o dduwiau llwythol y Qurayshites, llwyth Mohamed. Enw tad Mohamed oedd Abdallah ("mab neu ddisgynydd Allah"). Fel canlyniad i bregethu Mohamed collodd yr enw Allah bob cysylltiad â'r duw paganaidd lleol a datblygodd i fod yr hyn ydyw heddiw, sef y prif enw ar y Duw goruchaf gyda'r syniad o'i undod a'i unigolrwydd ymhlyg yn hynny; cysyniad a fynegir yng nghymal gyntaf y fformiwla shahâda, sy'n ganolog i Islam ac yn grynodeb o'r gred honno: Lâ Ilaha illâ Allâh, "Nid oes duw arall ond Duw."
[golygu] Cyfeiriadau
- Gabriel Mandel Khan, Mahomet le Prophète (Paris, 2002). ISBN 2744156868