Aífe
Oddi ar Wicipedia
Rhyfelwraig gadarn sy'n gymeriad yn y chwedl Wyddeleg Tochmarc Emire yw Aífe (Gwyddeleg; hefyd Aif'e).
Yn Tochmarc Emire mae hi'n curo'r arwr Cú Chulainn ac wedyn yn cael cyfathrach ag ef ac yn esgor ar fab. Ceir hanes tranc arwrol y mab hwnnw yn y chwedl Aided Oenfir Aífe, sy'n un o chwedlau Cylch yr Ulaid.