Aided
Oddi ar Wicipedia
Mae aided (Hen Wyddeleg aided, ynganiad IPA [að'eð]) yn chwedl Wyddelig sy'n ymwneud â thranc arwr enwog (neu farwolaeth anifail), dosbarth arbennig o chwedlau a restrir yn y Rhestrau Chwedlau Gwyddelig. Ei ystyr lythrennol yw "chwedl farwolaeth".
O'r chwedlau aided sydd wedi goroesi mae'r rhan fwyaf yn perthyn i chwedlau Cylch yr Ulaid (chwedlau am arwyr o dalaith Ulster). Maent yn cynnwys:
- Aided Cheit maic Mágach
- Aided Cheltchair maic Uthecair
- Aided Chonchobuir
- Aided Chon Culainn
- Aided Loegairi Buadaig
- Aided Oenfir Aífe
Ceir yn ogystal un aided yn y Cylch Mytholegol, sef
- Aided Chlainne Tuirenn
ac un sy'n rhan o'r Cylch Hanesyddol, sef
- Aided Muirchertaig meic Erca.