Yr wyddor Gymraeg
Oddi ar Wicipedia
Mae gan yr wyddor Gymraeg 28 lythyren:
Erbyn heddiw cydnabyddir J hefyd yn llythyren yr wyddor gan lawer o ramadegwyr. Fe'i defnyddir mewn geiriau benthyg.
Mae a, e, i, o, u, w, y yn llafariaid. Gall i ac w fod yn gytseiniaid hefyd megis yn iawn neu galwad.
[golygu] Ynganiad
Llythyren | Enw'r Llythyren | Seiniau cyfatebol (IPA) |
---|---|---|
a | â | /a, ɑː/ |
b | bî | /b/ |
c | èc | /k/ |
ch | èch | /x/ |
d | dî | /d/ |
dd | èdd | /ð/ |
e | ê | /ɛ, ɛː/ |
f | èf | /v/ |
ff | èff | /f/ |
g | èg | /g/ |
ng | èng | /ŋ/ |
h | âets, hâ | /h/ |
i | î | /ɪ, iː, j/ |
l | èl | /l/ |
ll | ell | /ɬ/ |
m | èm | /m/ |
n | en | /n/ |
o | ô | /ɔ, oː/ |
p | pî | /p/ |
ph | ffî | /f/ |
r | èr | /r/ |
rh | rhî, rhô | /r̥/ |
s | ès | /s/ |
t | tî | /t/ |
th | èth | /θ/ |
u | û | /ɨ̞, ɨː/ (Gogledd), /ɪ, iː/ (De) |
w | ŵ | /ʊ, uː, w/ |
y | ŷ | /ɨ̞, ɨː, ə/ (Gogledd), /ɪ, iː, ə/ (De) |
Mae llawer erbyn hyn yn calw'r cytsieiniaid yn "bỳ," "cỳ," "ch," ac yn y blaen yn hytrach na defnyddio'r enwau traddodiadol.
[golygu] Llyfryddiaeth
Am ragarweiniad i hanes yr wyddor Gymraeg yn y cyfnod modern, o oes y Dadeni ymlaen, ynghyd â'r rheolau sillafu safonol a dderbynir heddiw, gweler,
- John Morris-Jones et al., Orgraff yr Iaith Gymraeg (Adroddiad Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru) (Caerdydd, 1928)