Y Llwynog
Oddi ar Wicipedia
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y Llwynog
Soned gan R. Williams Parry yw Y Llwynog. Mae'n enwog iawn, yn enwedig y diweddglo: "Digwyddodd, darfu, megis seren wib."
Mesur - Soned Shakesperaidd;
10 sill i bob llinell
Rhannu i dwy rhan 8 a 6
Patrwm odl a b a b, c ch c ch, d dd d dd, e e.
Cwpled cloi
[golygu] Effaith Y Technegau
Mae'r brefau yn pwysleisio breuder y sefyllfa, yn enwedig y berfay yn y llinell glo "digwyddodd darfu" a'r un modd y gymhariaeth "megis seren wib". Mae seren wib llawn ysblander, a'r profid o'i gweld mor ryfeddol ac mor brin ag yw llwynog. Ychwanega'r ansoddeiriau hefyd at ysblander y foment prin "gwych, anrheuliedig, oediog, sefydlog a cringoch.
[golygu] Neges y Bardd
Gallwn ddadlau bod R. Williams Parry yn creu darlun o freuder profiad y funud.
"Digwyddodd, Darfu, megis seren wib"
Rhywbeth dros dro yw profiadau dyn ar ddaear a'r pleser yw mwynhau rhyfeddod y foment.
"Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'm blaen"
Yn yr un modd mae'n bosibl ei fod yn awgrymu mai bodau dros dro ydyn ni ar y ddaear hon. Dywed hefyd mai rhai o'r profiadau mwyaf byrhoedlog yn aml yw y rhai cofiadwy, arbennig a gwerthfawr.
[golygu] Pam defnyddio Soned?
Gwaith soned yw cyfleu neges mewn modd rhyddmig a thrwy hynnu'n trosglwyddo rhyw brofiad arbennig i'r gwrandawr. Yn y bedair llinell ar ddeg rhaid i'r bardd reoli ei hun i gynnwys dim ond y geiriau sy'n haeddu eu lle ac yn ychwanegu at y profiad. Yn hanesyddol hefyd disgwylir i'r soned gyrraedd uchafbwynt yn y gwpled clo yn ogystal a ddatblygiad yn ail hanner y gerdd. Gwneir hyn yn gampus gan R. Williams Parry yn y gerdd hon wrth son am brofiad a gafodd gyda'i ffrindiau un "gorffenaf gwych".
Mae'n gerdd berthnasol i'n hoes ni heddiw gan ei bod yn dangos prydferthwch byd natur ac yn dangos anifail yn ei gynefin naturiol. Mae'r gerdd yn annog ni werthfawrogi byd natur ac profiadau ei'n bywyd.
Gan Rhys Thomas