Undeb yr Annibynwyr
Oddi ar Wicipedia
Undeb yr Annibynwyr yw'r Undeb gwirfoddol o eglwysi Annibynnol Cymraeg, yng Nghymru a Lloegr, sy'n cydlynu gweithgarwch a thystiolaeth yr Annibynwyr. Fe'i sefydlwyd yng Nghaerfyrddin ym 1872. Y Parchg Dewi Myrddin Hughes yw'r Llywydd ar hyn o bryd (2007-08) a'r Parchg Ddr Geraint Tudur yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol (2006- ).
Mae swyddfa'r Undeb, sef Tŷ John Penri, ar gyrion dinas Abertawe, yn agos i Gyffordd 45 ar yr M4, ac mae dros 450 o eglwysi yn perthyn iddo (2007).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.