Tver
Oddi ar Wicipedia
Tver
|
|
---|---|
oblast Tver
|
|
Lleoliad Tver | |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 147 km² |
Uchder uwchben lefel y môr | m |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) | 408,903 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2006) | 405,600 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Maer | Oleg Lebedev |
Dinas yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd yw Tver (Rwsieg Тверь / Tver'), canolfan weinyddol oblast Tver. Mae'n borthladd ar ran uchaf Afon Volga, lle mae Afon Tvertsa yn ymuno â hi. Fe'i lleolir 167km i'r gogledd-orllewin i Moscow, a 485km i'r de-ddwyrain i St Petersburg ar brif ffyrdd a'r rheilffordd rhwng y ddwy. Sylfaenwyd tywysogaeth rymus yn y ddinas yn yr Oesoedd Canol. Ailenwyd y ddinas fel Kalinin (ar ôl y chwyldroadwr Mikhail Kalinin) ym 1931, ond dychwelodd i'w henw gwreiddiol ym 1990. Ei phoblogaeth yw 408,903 (Cyfrifiad 2002).
[golygu] Hanes Tver
Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif, fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth tywysogaeth Tver i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y Mongoliaid ym 1327, a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd Afanasy Nikitin, marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i India a de-ddwyrain Asia o 1466 hyd 1477 ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr Moscow o dan Ifan III ym 1485. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas Moscow.