Trevelin
Oddi ar Wicipedia
Mae Trevelin (weithiau Trefelín) yn dref gyda phoblogaeth o tua 5.000 yn nhalaith Chubut, Ariannin. Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a sefydlwyd gan John Daniel Evans yn 1889.
Trevelin oedd canolbwynt y gwladychiad Cymreig yng Nghwm Hyfryd. Enw Sbaeneg yr ardal yw Valle 16 de Octubre, gan iddo gael ei sefydlu ar y 16eg o Hydref, 1888. Yn 1902, yn dilyn anghydfod rhwng Ariannin a Chile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o'r Ariannin.
Mae Trevelín yn y rhan wlyb o Batagonia, er yn agos i'r ffin a'r rhan sych, gyda thymheredd rhwng 10°C a 5°C ar gyfartaledd a llawer o eira yn y gaeaf. Ymhlith y mannau o ddiddordeb mae'r Museo Histórico Regional yn hen felin John Evans, a Museo Cartref Taid lle gellir gweld nifer o gelfi oedd yn perthyn i John Daniel Evans. Gerllaw, mae bedd ceffyl John Evans, Malacara, a achubodd ei fywyd trwy neidio i lawr dibyn serth pan ymosodwyd arno gan Indiaid.