Tom Shanklin
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol Gleision Caerdydd a Chymru yw Tomos George L. Shanklin (ganed 24 Tachwedd 1979. Mae'n chwarae fel canolwr.
Ganed ef yn Harrow, yn fab i Jim Shanklin, a enillodd bedwar cap dros Gymru. Bu'n chwarae i Gymry Llundain a Saracens cyn ymuno a'r Gleision yn 2003.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Japan yn Tokyo yn 2001, gan sgorio dau gais. Chwaraeodd ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc yr un flwyddyn. 32 mlynedd ynghynt, roedd ei dad wedi chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005, a dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005. Fodd bynnag, anafodd ei ben-glin yn ddrwg yn gynnar yn y daith, ac ni chwaraeodd lawr yn nhymor 2006. Erbyn 2008 roedd wedi ad-ennill ei le, a bu'n rhan o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn eto yn 2008. Nodwyd nad yw Cymru wedi colli unrhyw gêm lle dechreuodd ef a Gavin Henson y gêm fel canolwyr.