Thomas Richards (gramadegydd)
Oddi ar Wicipedia
Curad Llangrallo (Pen-y-bont ar Ogwr), gramadegydd a geiriadurwr oedd Thomas Richards (c. 1710 - 1790).
Cyhoeddodd un o eiriaduron Cymraeg mwyaf cynhwysfawr y ddeunawfed ganrif, Antiquæ linguæ Britannicæ thesaurus: being a British, or Welsh-English dictionary, ynghyd â gramadeg Cymraeg yn ei ragflaenu A brief introduction to the ancient British, or Welsh language: being a compendious and comprehensive grammar. Ymddangosodd y ddau mewn un gyfrol a gyhoeddwyd ym Mryste ym 1753. Yn ogystal â hynny, cyfieithodd waith Philip Morant, The cruelties and persecutions of the Romish church display’d (Llundain, 1728) i'r Gymraeg fel Creulonderau ac herlidigaethau eglwys Rufain (Caerfyrddin, 1746).