See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Thomas Picton - Wicipedia

Thomas Picton

Oddi ar Wicipedia

Cadfridog Cymreig a laddwyd ym Mrwydr Waterloo oedd Syr Thomas Picton (Awst 1758 - 18 Mehefin 1815).

Ganed ef yn Poyston Cross yn ne Sir Benfro, yn fab iau i Thomas Picton o Poyston Hall. Ymunodd a'r fyddin yn 1771, fel ensign yn 12fed Catrawd y Troedfilwyr, ond ni welodd frwydro nes iddo gymeryd rhan yng nghipio ynys Sant Lucia yn 1796. Bu'n llywodraethwr milwrol Trinidad yn y 1790au, lle cafodd enw am greulondeb.

Roedd yn bennaeth y 3edd adran yn Rhyfel Iberia ac ennillodd gryn enw iddo'i hun. Fodd bynnag, ar ddiwedd y rhyfel nid oedd yn un o'r cadfridogion a wnaed yn arglwyddi. Roedd hyn yn siom fawr iddo, a dychwelodd i sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o geisio dod yn aelod seneddol. Urddwyd ef yn farchog yn 1815, a phan ddihangodd Napoleon o Ynys Elba, galwyd ef yn ôl i'r fyddin. Arweiniodd y 5ed Adran yn yr ymladd yn Quatre Bras, lle cafodd ei glwyfo. Er gwaethaf ei glwyf, ymladdodd ym Mrwydr Waterloo, lle lladdwyd ef. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle mae cofgolofn iddo. Ceir cofgolofn iddo hefyd yn nhref Caerfyrddin.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -