Swydd Efrog a'r Humber
Oddi ar Wicipedia
Swydd Efrog a'r Humber | |
Lleoliad rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber |
|
Daearyddiaeth | |
---|---|
Arwynebedd | 15 420 km² (5ed yn Lloegr) |
NUTS 1 | UKE |
Demograffeg | |
Poblogaeth — Cyfanswm — Dwysedd |
5 063 900 (2005) (6ed yn Lloegr) 328/km² |
CMC y pen | £15 056 (8fed yn Lloegr) |
Llywodraeth | |
Pencadlys | Leeds / Sheffield |
Cynulliad | Cynulliad Rhanbarthol Swydd Efrog a'r Humber |
Etholaeth Senedd Ewrop | Etholaeth Senedd Ewrop Swydd Efrog a'r Humber |
Gwefan |
Un o naw rhanbarth Lloegr yw Swydd Efrog a'r Humber. Mae'n gorchuddio'r rhan fwyaf o sir hanesyddol Swydd Efrog, ynghyd â'r rhan o ogledd Swydd Lincoln a oedd wedi'i lleoli tu mewn i sir Glannau Humber rhwng 1974 a 1996.
Disgwylid i Swydd Efrog a'r Humber (ynghyd â Gogledd-orllewin Lloegr) gynnal refferendwm ar sefydliad cynulliad rhanbarthol etholedig. Yn ddiweddar, gwrthododd rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr greu cynulliad rhanbarthol etholedig mewn refferendwm. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny, John Prescott, na fyddai'n bwrw ymlaen â refferenda mewn rhanbarthau eraill. Lleolir Cynulliad Swydd Efrog a'r Humber, sydd yn gwango, yn Wakefield.
Whernside, yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog, yw pwynt uchaf y rhanbarth (737m). Hornsea Mere, yn Riding Dwyreiniol Efrog, yw'r llyn dŵr croyw mwyaf.
Yn 2005, roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,854,357.