Soffocles
Oddi ar Wicipedia
Dramodydd Groegaidd oedd Sophocles (Groeg: Σοφοκλής) (ca. 495 CC–406 CC). Roedd yn un o dri trasiedydd mawr Athen, gyda Aeschylus ac Euripides. Mae saith o'i ddramâu wedi goroesi; yr enwocaf yw'r gyfres o dair drama am Oedipus ac Antigone.
Ganed ef yn Colonus Hippius yn Attica, ychydig o flynyddoedd cyn Brwydr Marathon, er bod yr union flwyddyn yn ansicr. Bu'n flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Athen yn ogystal a bod yn ddramodydd.
[golygu] Dramâu sydd wedi goroesi'n gyflawn
- Oedipus Frenin
- Oedipus yng Ngholonus
- Antigone
- Ajax
- Y Trachiniae
- Electra
- Philoctetes