Sleepy Hollow, Efrog Newydd
Oddi ar Wicipedia
- Am ddefnyddiau eraill o'r enw, gweler Sleepy Hollow.
Pentref yn nhref Mount Pleasant, Swydd Westchester, Efrog Newydd yw Sleepy Hollow. Lleorir ar lan dwyreiniol yr Afon Hudson, tua 30 milltir i'r gogledd o ganol Manhattan yn Ninas Efrog Newydd. I'r de o Sleepy Hollow mae pentref Tarrytown.
Ers diwedd y Chwyldro Americanaidd hyd ei gyfuniad, enw'r pentref oedd Beekmantown, cyfunwyd yn 1874 fel "North Tarrytown", a newidioedd ei enw'n swyddogol i "Sleepy Hollow" ym mis Mawrth 1997. Roedd oblogaeth o 9,212 yn ystod cyfrifiad 2000, ac amcangyfrwyd poblogaeth o 10,124 yn 2006.[1]
Sleepy Hollow yn leoliad stori ysbrydion enwog Washington Irving, The Legend of Sleepy Hollow, a lleoliad Sleepy Hollow Cemetery, lle claddwyd Irving ynghyd â Andrew Carnegie, Walter P. Chrysler, Brooke Astor, Elizabeth Arden, Thomas J. Watson o IBM nifer o enwogion eraill. Lleolir Philipsburg Manor a Hen Eglwys Iseldiraidd Sleepy Hollow yn y pentref yn ogystal.
Roedd y bentref yn leoliad ffatri gysodi Chevrolet, General Motors hyd 1996. Fe gafodd cau'r ffatri gryn effaith ar economi'r ardal. Mae'r safle heddiw'n cael ei ail-ddatblygu ar gyfer adeiladu cartrefi a siopau adwerthu,[2] er fod pentref Tarrytown ger llaw wedi elyn dros bryderion ynglyn â thraffig, parcio ac effaith amgylcheddol y cynllun.[3]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ U.S. Census Bureau, Population Finder: Sleepy Hollow village, New York
- ↑ Carin Rubinstein, IN BUSINESS: A Hurdle Cleared on Riverfront Site, New York Times (6 Hydref 2002)
- ↑ Mariel Lynn DiSibio, Two Villages, One Project, Another Lawsuit, New York Times (28 Hydref 2007)
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Sleepy Hollow
- (Saesneg) Hanes fer Sleepy Hollow
- (Saesneg) Sleepy Hollow Cemetery
- (Saesneg) Old Dutch Burying Ground, Sleepy Hollow
- (Saesneg) The Hudson Independent (Papur Lleol)