Shetland
Oddi ar Wicipedia
Mae Shetland (Zetland), neu Ynysoedd Shetland, yn grŵp o tua cant o ynysoedd i'r gogledd-ddwyrain o dir mawr yr Alban, ym Môr y Gogledd.
Y prif ynysoedd yw Mainland, yr ynys fwyaf, Yell ac Unst. Lerwick yw canolfan wleidyddol yr ynysoedd.
Yn draddodiadol mae'r economi leol yn seiliedig ar grofftio, yn bennaf er mwyn magu defaid ar gyfer y diwydiant gwlân, bridio merlod Shetland a physgota penwaig. Ond ers y 1970au mae dyfodiad y diwydiant olew ac agor Maes Olew Brent wedi trawsffurfio'r economi.