Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Salvador Allende - Wicipedia

Salvador Allende

Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Salvador Allende (26 Gorffennaf 1908 - 11 Medi 1973) yn wleidydd o Chile a wasanaethodd fel arlywydd ei wlad o 3 Tachwedd 1970 hyd ei farwolaeth. Fe'i ganed yn Valparaiso.

Ymddiddorai Allende mewn gwleidyddiaeth yn ddyn ifanc, a chafodd ei arestio sawl gwaith yn ystod ei amser fel myfyriwr am iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau radicalaidd. Cynorthwyodd i sefydlu Plaid Sosialaidd Chile, plaid Farcsaidd annibynnol a ddilynai lwybr gwahanol i'r Blaid Gomiwynyddol a oedd yn dilyn llwybr yr Undeb Sofietaidd. Cafodd ei ethol i Siambr Dirprwyon Chile yn 1937, gwasanaethodd fel gweinidog iechyd am dair blynedd ac fel seneddwr o 1945 hyd 1970.

Safodd dair gwaith am yr arlywyddiaeth - yn 1952, 1958 a 1964 - ond heb lwyddiant. Yn 1970 llwyddodd gyda mwyafrif bychan i ddod yn arlywydd Chile a chychwynodd ar raglen radicalaidd asgell chwith i greu cymdeithas sosialaidd mewn fframwaith llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad. Ond wynebai wrthwynebiad eang gan elfennau grymus yn y sector preifat a byd busnes ; cefnogai llywodraeth yr Unol Daleithiau'r gwrthwynebwyr a rhoddwyd y CIA ar waith yn y wlad i helpu tanseilio llywodraeth Allende. Ym mis Medi 1973, cafwyd coup milwrol yn ei erbyn a sefydlwyd junta militaraidd dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet. Bu farw cannoedd o bobl yn yr ymladd. Lladdwyd Allende yn y brwydro i gipio'r Palas Arlywyddol yn Santiago, prifddinas Chile.

Yn y misoedd ar ôl lladd Allende, ffôdd cannoedd o bobl, yn cynnwys nith Allende, y nofelydd Isabel Allende, i geisio lloches yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.

[golygu] Ymyrraeth yr Unol Daleithiau

Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystyried y posiblrwydd y byddai Allende yn ennill etholiad 1970 yn drychineb am ei bod yn awyddus i amddiffyn buddianau economaidd a strategol yr Unol Daleithiau ac atal ymlediad comiwnyddiaeth a sosialaeth yn America Ladin. Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hyn. Ym Medi 1970, dywedodd yr Arlywydd Nixon wrth y CIA nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000 (swm eithaf sylweddol yn 1970) i atal Allende rag ennill grym neu i'w ddymchwel pe bai'n llwyddo i ddod yn arlywydd. Galwyd cynlluniau'r CIA i atal Allende yn "Trac I" a "Trac II"; roedd Trac I yn ceisio atal Allende trwy "ddichell seneddol", tra bod Trac II yn fod i berswadio swyddogion clo ym myddin Chile i weithredu coup pe bai Allende yn ennill.[1]

Gwrthdystiad o blaid Allende
Gwrthdystiad o blaid Allende

Ar ôl etholiad 1970, ceisiodd cynnlun Trac I annog yr arlywydd ar fin gorffen ei dymor, Eduardo Frei Montalva, i berswadio ei blaid, y (PDC) i bleidleisio dros Alessandri yn y Gyngres. Byddai Alessandri wedyn yn ymddeol ar unwaith a galw am etholiad newydd. Buasai Eduardo Frei yn rhydd i sefyll eto wedyn yn ôl cyfansoddiad Chile, gyda siawns da efallai i guro Allende. Ond dewisodd Siambr Dirpwryon Chile Allende yn Arlywydd, ar yr amod ei fod yn parchu'r Cyfansoddiad.

Yn ôl rhai sylwebyddion a haneswyr, ni fu rhaid gweithredu Trac II, am fod lluoedd arfog Chile eisoes yn symud i'r cyfeiriad yna.[2] Mae eraill yn dadlau fod y CIA wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllwyn Pinochet ac eraill, neu o leiaf wedi ei hybu'n sylweddol.

Mae'r Unol Daleithiau wedi cydnabod chwarae rhan yng nglweidyddiaeth Chile cyn y coup, ond mae ei rhan yn y coup ei hun yn ddadleuol. Rhybuddwyd y CIA gan eu cysylltiadau yn Chile ddeuddydd o flaen llaw, ond y llinell swyddogol yw na chwareodd y CIA ran uniongyrchol ynddo.[3]

Rhoddwyd cymorth ariannol gan lywodraeth UDA i gefnogi streic gyrrwyr lorïau preifat, a ychwanegodd i'r anhrefn economaidd cyn y coup,[4]

Ar ôl i Pinochet gipio grym, dywedodd Henry Kissinger wrth yr Arlywydd Richard Nixon "na wnaeth yr Unol Daleithiau hyn," ond "mi ddaru ni helpu." (gan gyfeirio at y coup ei hun) [5] Yn ychwanegol, mae dogfennau a ryddhawyd dan lywodraeth Bill Clinton yn dangos bod llywodraeth UDA a'r CIA wedi ceisio cael gwared o Allende yn 1970 cyn iddo ennill grym ("Prosiect FUBELT"). Erys nifer o ddogfennau perthnasol heb eu cyhoeddi.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Hinchey Report Y CIA yn Chile. 18 Medi, 2000. Cyrchwyd 18 Tach., 2006.
  2. "Church Report. Covert Action in Chile 1963-1973", 18 Rhagfyr, 1975.
  3. CIA Reveals Covert Acts In Chile, CBS News, 19 Medi, 2000.
  4. Jonathan Franklin, Files show Chilean blood on US hands, The Guardian, 11 Hydref, 1999.
  5. The Kissinger Telcons: Kissinger Telcons on Chile, National Security Archive Electronic Briefing Book No. 123, gol. Peter Kornbluh, postiwyd 26 Mai, 2004. Ceir y deialog ar TELCON: September 16, 1973, 11:50 a.m. Kissinger Talking to Nixon.
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com