Saint Kitts
Oddi ar Wicipedia
Ynys yn yr Antilles Lleiaf yn nwyrain y Caribî yw Saint Kitts. Gyda'i chymydog Nevis, mae'n ffurfio Ffederasiwn Saint Kitts a Nevis, un o wledydd y Caribî. Mae ganddi arwynebedd tir o 168 km² gyda phoblogaeth o 35,000. Lleolir Basseterre, prifddinas y wlad, ar ynys Saint Kitts.