Sgwrs:Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)
Oddi ar Wicipedia
[golygu] Dyddiad ei ordeinio?
Pryd gafodd ei ordeinio? Yn ôl Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, 1883. Yn ôl llyfr D. Myrddin Lloyd, 1884. Pwy sy'n gywir? Daffy 21:40, 5 Medi 2006 (UTC)
Cwestiwn da. Y tro yma y Cydymaith piau hi, mae'n debyg. Yn ôl T. Gwynn Jones yn ei Gofiant iddo, cafodd Emrys ei ordeinio yng Nghymdeithasfa'r Wyddgrug, ym Mehefin 1883 (yn anffodus nid yw T. Gwynn Jones yn rhoi'r union ddyddiad). Ceir hanes yr helynt o'i ordeinio'n fanwl iawn yn y Cofiant (pennod VI a IX); mae'r cyfeiriad rhy foel o lawer at ei ordeinio, o'r diwedd, i'w gael ar dud. 152. Anatiomaros 22:06, 5 Medi 2006 (UTC)
Diolch! Dwi wedi ychwanegu'r manylion. Daffy 22:40, 5 Medi 2006 (UTC)