See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Reticwlwm endoplasmig - Wicipedia

Reticwlwm endoplasmig

Oddi ar Wicipedia

Delwedd o niwclews, reticwlwm endoplasmig ac organigyn Golgi. 1 Niwclews     2 Mandwll niwclear     3 Reticwlwm endoplasmig garw     4 Reticwlwm endoplasmig llyfn     5 Ribosom ar yr RE garw     6 Proteinau sy'n cael eu cludo     7 Fesiglau cludiant     8 Organigyn Golgi     9 Ochr cis yr organigyn Golgi     10 Ochr trans yr organigyn Golgi     11 Cisternae yr organigyn Golgi    
Delwedd o niwclews, reticwlwm endoplasmig ac organigyn Golgi.
1 Niwclews     2 Mandwll niwclear     3 Reticwlwm endoplasmig garw     4 Reticwlwm endoplasmig llyfn     5 Ribosom ar yr RE garw     6 Proteinau sy'n cael eu cludo     7 Fesiglau cludiant     8 Organigyn Golgi     9 Ochr cis yr organigyn Golgi     10 Ochr trans yr organigyn Golgi     11 Cisternae yr organigyn Golgi    

Organyn isgellog a ddarganfyddir mewn cell fiolegol ewcaryotig yw reticwlwm endoplasmig (a elwir yn RE yn fyr). Mae’n rhwydwaith bilen estynnol o cisternae (strwythurau codennol) o fewn cytoplasm y gell sydd wedi’i uno gyda’r amlen niwclear. Mae pilen ffosffolipid y reticwlwm yn amgáu gwagle o’r cytosol, a elwir yn waglyn cisternol neu lwmen. Mae swyddogaethau’r reticwlwm endoplasmig yn ddibynnol ar y fath o reticwlwm a'r fath o gell. Mae yna dair ffurf i'r reticwlwm endoplasmig sy’n weladwy yn y rhan fwyaf o gelloedd: reticwlwm endoplasmig llyfn, reticwlwm endoplasmig garw a reticwlwm sarcoplasmig.[1]

Mae’r reticwlwm endoplasmig llyfn yn cynnwys nifer o ensymau pilennog, yn cynnwys nifer o ensymau sydd yn cymryd rhan yn synthesis lipidau, ocsidiad a dadwenwyno cyfansoddion estron (senobiotigion) fel cyffuriau. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau metabolaidd eraill, fel rheoli crynodiad Calsiwm y gell, cymryd rhan yn metabolaeth carbohydradau a glynu derbynnyddion wrth broteinau cellbilennau. Darganfyddir RE llyfn yn nifer o wahanol fathau o gell a maent â pwrpasau gwahanol ym mhob un. Mae RE llyfn yn cynnwys tiwbynnau a fesiglau sy'n canghennu i ffurfio rhwydwaith sy’n cynyddu arwynebedd ar gyfer prosesau metabolaidd ac ar gyfer storio ensymau.
Enwyd y reticwlwm endoplasmig garw oherwydd presenoldeb nifer o ribosomau ar bilen allanol y reticwlwm. Mae hyn yn rhoi ymddangosiad garw i'r RE. Mae'r ribosomau yma yn benodol yn syntheseiddio proteinau sy'n cael eu secretu gan y gell neu proteinau i'w defnyddio yn y bilen blasma a rhai organynnau cellog. Mae'r RE garw yn barhaol gyda haen allanol yr amlen niwclear, ac felly mae modd i drosglwyddo deunyddiau rhwng cnewyllyn y gell a'r rhwydwaith Reticwlwm Endoplasmig. Er nad oes pilen ddi-dor rhwng yr RE garw a'r organigyn Golgi, bydd fesiglau pilennog yn trosglwyddo proteinau rhwng y ddau. Mae'r RE garw yn cydweithio â’r organigyn Golgi i gyfeirio proteinau newydd i'r llefydd cywir.[2]
Mae’r reticwlwm sarcoplasmig yn fath arbennig o RE llyfn a ddarganfyddir mewn cyhyr rhesog. Yr unig wahaniaeth strwythurol rhwng reticwlwm sarcoplasmig a RE llyfn yw'r gymysgedd o broteinau sydd ynddynt. Oherwydd hyn, mae'r reticwlwm sarcoplasmig yn fwy addas ar gyfer storio a pwmpio ionau Calsiwm, sy'n bwysig ar gyfer ysgogi cyfangiad cyhyrol[3]. Yn gyferbynniol, mae RE llyfn yn fwy addas ar gyfer syntheseiddio molecylau.

[golygu] Swyddogaethau

  • Trosi, cludo a threfnu proteinau.
  • Achosi glycosyleiddiad.
  • Atafaeliad Calsiwm.
  • Cynhyrchu a storio glycogen, steroidau a macromoleciwlau eraill.
  • Ffurfio bondiau deusylffid i sefydlogi proteinau.

[golygu] Hanes

Arsylwyd retiwclwm endoplasmig yn gyntaf gan Keith R. Porter o dan ficrosgôp electron yn ystod ei waith ar feithriniad meinweoedd yn athrofa ymchwil meddygaeth Rockerfeller yn Efrog Newydd yn 1944.[4]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Endoplasmic reticulum: Structure and function. Prifysgol Meddygol Texas. (Saesneg) http://cellbio.utmb.edu/cellbio/rer1.htm
  2. Campbell, Neil A. (1996) Biology Fourth Edition. Benjamin/Cummings Publishing, pp. 120-121 ISBN 0-8053-1940-9
  3. Toyoshima C, Nakasako M, Nomura H, Ogawa H. (2000, June 8). (Saesneg) Crystal structure of the calcium pump of sarcoplasmic reticulum at 2.6 A resolution. Nature. 405(6787):647-55.
  4. A study of tissue culture cells by electron microscopy., Keith R. Porter, Albert Claude a Ernest F. Fullam. (derbynwyd ar gyfer cyhoeddiad yn Nhachwedd 1944)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -