Peter Law
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd o Gymro oedd Peter John Law (1 Ebrill, 1948 - 25 Ebrill, 2006). Roedd yn Aelod Cynulliad dros Blaenau Gwent o 1999 ymlaen ac fe arhosodd yn aelod yno pan etholwyd ef yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 i San Steffan fel Aelod Seneddol dros yr un etholaeth. Yr oedd yn aelod o'r Blaid Lafur am y rhan fwyaf o'i oes ond yn y blynyddoedd olaf roedd perthynas chwerw rhyngddo â'r Blaid Lafur. Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yr oedd wedi dysgu Cymraeg. Bu hefyd yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd Gwent.
Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel cynghorydd a daeth i amlygrwydd yn dilyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 pan benodwyd ef gan Alun Michael yn ysgrifennydd llywodraeth leol a'r amgylchedd. Collodd ei swydd yn y cabinet pan ddaeth Rhodri Morgan yn brifweinidog a ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Peter Law yn feirniadol iawn o'r glymblaid honno.
Yn 2005 penderfynnodd y Blaid Lafur ddewis ymgeisydd seneddol i Blaenau Gwent o restr menywod-yn-unig. Cythruddwyd Peter Law gan hyn nes iddo benderfynnu sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr Etholiad Cyffredinol. Yn anorfod cafodd ei ddiarddel o'r Blaid Lafur ac o ganlyniad i hynny collodd llywodraeth Rhodri Morgan ei fwyafrif o un, gan fod Peter Law yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent yn y Cynulliad.
Roedd canlyniad 2005 yn y sedd yn anhygoel. Trodd Peter Law fwyafrif Llafur o 19,000 i fwyafrif o 9,000 iddo ef.
I roi halen ar y briw fe ddyrchafwyd Maggie Jones yr ymgeisydd Llafur yn ddiweddarach i Dŷ'r Arglwyddi.
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Blaenau Gwent 1999 – 2006 |
Olynydd: Trish Law |
Rhagflaenydd: Llew Smith |
Aelod Seneddol dros Blaenau Gwent 2005 – 2006 |
Olynydd: Dai Davies |