Ngaoundéré
Oddi ar Wicipedia
Ngaoundéré (neu N'Gaoundéré) yw prifddinas Talaith Adamawa yng nghanolbarth Camerŵn. Mae'n gorwedd 1212m uwchlaw lefel y môr. Ei phoblogaeth yw tua 189,800 (amcangyfrif, 2001).
[golygu] Atyniadau
Ymhlith atyniadau'r ddinas gellid crybwyll Palas Lamido a Mosg Mawr Lamido.
[golygu] Cludiant
Mae'r ddinas ar derminws gogleddol y rheilffordd i'r brifddinas Yaoundé. Mae ganddi faes awyr yn ogystal.