Mynydd Cefnamwlch
Oddi ar Wicipedia
Bryn yn Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Cefnamwlch
Bryn 182m o uchder ydyw o ddifrif, ond Mynydd Cefnamwlch yw ei enw diolch i barch bobl lleol amdano. Saif tua dwy filltir o lannau ogleddol Llŷn, gyda'r brif ffordd rhwng Tudweiliog a Llangwnnadl (B4417, ffordd eilaidd) ar ei hochr ogleddol. Tua hanner milltir ar hyd y ffordd o droed Mynydd Cefnamwlch tuag at Llangwnnadl ceir troad lawr i'r dde tuag at blasdy Plas yn Mhenllech a'i heglwys hynafol. Yn fforchio o'r B4417 ym Meudu Bigin a throi'n ddwyreiniol mae ffordd gul tuag at Sarn Mellteyrn, Bryncroes a Botwnnog. Wrth ddod allan o'r coed sydd ar naill ochr i'r ffordd yma fe welwch Goetan Arthur ar y dde mewn cae cyfagos, enghraifft dda o gromlech o'r Oes Neolithig (rhwng 2000 i 4000CC) ac mae'n bosib cerdded ato ac edrych draw ar yr olygfa tuag at Garn Fadryn, Eryri a Môn. Cyn cyrraedd pentref Sarn Mellteyrn mae olion eglwys San Pedr ar y chwith, fe'i dymchwelwyd yn y 1990au.