Mynydd Ararat
Oddi ar Wicipedia
Mynydd Ararat Ararat |
|
---|---|
Llun | Ararat o Doğubeyazıt |
Uchder | 5,137 m. (16,854 troedfedd) |
Gwlad | Twrci |
Mynydd Ararat (Twrceg: Ağrı Dağı) yw mynydd uchaf Twrci. Saif yn nhalaith Iğdır yng ngogledd-ddwyrain Twrci, rhyw 16 km o'r ffin ag Iran a 32 km o'r ffin ag Armenia.
Mae Ararat yn llosgfynydd, er nad yw wedi ffrwydro o fewn côf. Dr. Friedrich Parrot, gyda chymorth Khachatur Abovian, oedd y cyntaf i'w ddringo hyd y gwyddir, yn 1829. Gellir ei ddringo o'r de gyda chymorth bwyell eira a chramponau, ond mae'n rhaid cael caniatâd llywodraeth Twrci a defnyddio tywysydd lleol.
Mae Ararat yn enwog fel y lle y glaniodd Arch Noa yn y stori yn y Beibl, ac mae nifer o ymdrechion wedi eu gwneud i ddarganfod gweddillion yr arch ar y copa. Yn y 1950au llwyddodd De Navarre i ddarganfod darn o bren, ond dangosodd profion ei fod o ddyddiad diweddar.