Moel Eilio
Oddi ar Wicipedia
Moel Eilio Yr Wyddfa |
|
---|---|
Llun | Moel Eilio o'r de |
Uchder | 726m / 2,382 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Moel Eilio yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r de-orllewin o bentref Llanberis ac i'r gogledd-ddwyrain o fetws Garmon. Ef yw'r mwyaf gogleddol o gadwyn o fryniau i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun; y lleill yw Foel Gron, Foel Goch a Moel y Cynghorion. Saif Llyn Dwythwch i'r dwyrain o'i gopa. Gellir ei ddringo o Lanberis, a gellir un ai cerdded ar hyd y grib cyn belled a Moel y Cynghorion cyn cymeryd llwybr arall yn ôl i Lanberis, neu ddisgyn i Fwlch Cwm Brwynog a mynd ymlaen i gopa'r Wyddfa.