Minaret
Oddi ar Wicipedia
Rhan o bensaernïaeth mosg ydy minaret (Arabeg Safonol Manâra). Fel arfer, tŵr sy'n codi'n uwch na'r adeiladau eraill ydyw. Pwrpas yw minaret ydy darparu lle uchel i'r muezzin i alw pobl i weddïo.
Mae saith minaret i gyd yn y Mosg Mawr ym Mecca. Gan mai dyma'r mosg pwysicaf, dim ond uchafswm o chwe minaret sydd gan bob mosg arall, fel y Mosg Glas yn Istanbwl yn Nhwrci.
[golygu] Geirdarddiad
Yn ôl rhai awdurdodau mae'r gair "minaret" yn deillio o'r bôn Arabeg adhân, sy'n golygu "galw". Daw tri air o'r bôn hwnnw:
- galw i weddïo (Arabeg: أذان ['aδān])
- muezzin (Arabeg: مُؤَذِّن [mu'waδδin])
- minaret (Arabeg : مِئْذَنة[mi'δana])
Fodd bynnag mae awdurdodau eraill yn dadlau mai'r gair Arabeg manâra ("goleudy; man lle ceir tân neu oleuni") yw ffynhonell y gair "minaret" (manara).
[golygu] Cynseiliau pensaernïol posibl
Awgrymir y canlynol fel cynseiliau pensaernïol i'r minaret:
- 1. Tyrau beddrod brodorol o ddiwedd y cyfnod clasurol, a welir yn Palmyra, er enghraifft.
- 2. Obelisgs yr hen Aifft.
- 3. Massebah - math arall o dyrau beddrod nodweddiadol Semitaidd
- 4. Goleudai'r Hen Fyd, e.e. Pharos Alexandria.
- 5. Datblygiad naturiol o onglau dyrchafedig y mosg Ummayad cyntaf ym Mecca (a hynny'n mwynhau awdurdod sancteiddrwydd).
[golygu] Mathau o finaret
Mae sawl math gwahanol o finaret gan ddibynnu ar arddull pensaernïol y Mosg. Fel rheol caetn eu dosbarthu'n fras mewn tri dosbarth hanesyddol:
- Minarets â gwaelod sgwâr - "arddull Gogledd Affrica".
- Minarets "pibau organ" - "arddull Canolbarth Asia" ac Iran.
- Minarets siâp nodwydd - "arddull Twrci".