Madog Crypl
Oddi ar Wicipedia
Etifedd Powys Fadog oedd Madog Crypl neu Madog Crippil, hefyd Madog ap Gruffudd (c.1275--1304). Ni fu ef ei hun erioed yn dywysog Powys Fadog, yn hytrach daliai ran o'r eifeddiaeth fel deiliad i goron Lloegr.
Bu farw ei dad Gruffudd Fychan yn 1289, pan oedd Madog yn dal yn blentyn. Gweinyddwyd ei diroedd gan y frenhines, yna gan Reginald de Grey, Ustus Caer, yna gan Thomas o Macclesfield. Gofynnodd Madog i'r brenin wneud darpariaeth iddi, ac ymddengys iddo gael tiroedd ei dad; Glyndyfrdwy yn Edeirnion a hanner cwmwd Cynllaith, sef yr ardal o gwmpas Sycharth.
Priododd Gwenllian ferch Ithel Fychan, a chofnodir i fab iddynt, Gruffudd o Ruddallt, briodi Elizabeth, merch John LeStrange o Knockin yn 1304, pan oedd yn chwech oed. Bu Madog farw yr un flwyddyn. Yn ôl rhai o'r achau, roedd ganddo fab arall, Madog Fychan, a eifeddodd diroedd ei dad.
[golygu] Llyfryddiaeth
- J. E. Lloyd Owen Glendower: Owen Glyn Dŵr (Clarendon Press, 1931)