Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin
Oddi ar Wicipedia
Cymuned ym Mhowys, yw Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin. Saif y gymuned i'r gogledd o Afon Wysg, rhwng Crucywel ac Aberhonddu, gyda'r briffordd A40 yn arwain trwyddi. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bwlch, Tretŵr a Chwm-du. Er gwaethaf enw'r gymuned, nid yw'n cynnwys pentref Cathedin, sydd yng nghymuned Llangors. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 918.
Ceir nifer o hynafiaethau o fewn y gymuned, yn cynnwys y ffordd Rufeinig o'r Fenni i Aberhonddu, a gweddillion caer Rufeinig ym Mhen-y-gaer. I'r gogledd o Bwlch mae adfeilion Castell Blaenllynfi, oedd yn eiddo i deulu Picard. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Gwrt Tretŵr, sydd yn awr yng ngofal Cadw.