Lincoln
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am Arlywydd yr Unol Daleithiau, gweler Abraham Lincoln.
Dinas yn Swydd Lincoln yn Lloegr yw Lincoln. Yn 2001, roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 120,779. Saif ar Afon Witham
Ymddengys fod sefydliad yma yn Oes yr Haearn, a chredir fod enw'r ddinas yn dod o enw Brythoneg fel Lindu, Lindo neu Lindun. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig daeth yn colonia gyda'r enw Lindum.
Gorffenwyd adeiladu'r eglwys gadeiriol yn 1092; ail-adeiladwyd hi yn 1185 wedi daeargryn.