Lewis Morris (1833-1907)
Oddi ar Wicipedia
Bardd Eingl-Gymreig oedd Syr Lewis Morris (23 Ionawr 1833 - 10 Tachwedd 1907).
Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i Lewis Edward William Morris a gor-ŵyr Lewis Morris, un o Forysiaid Môn. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn y clasuron 1856; ef oedd y myfyriwr cyntaf mewn 30 mlynedd i gael anthydedd dosbarth cyntaf yn yr arholiadau rhagarweiniol a therfynol. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1861. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Songs of Two Worlds yn 1871, a dilynwyd hi gan nifer eraill. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw "Love's Suicide". Bu'n gyd-ysgrifennydd a chyd-drysorydd Coleg Prifysgol Aberystwyth.
Gwnaed ef yn farchog yn 1895. Roedd yn gobethio cael ei ddewis i swydd Poet Laureate, ond nis cafodd, efallai oherwydd ei fod yn cymdeithasu ag Oscar Wilde. Claddwyd ef ym mynwent Llangynnwr ger Caerfyrddin.