Kalimpong
Oddi ar Wicipedia
Mae tref fach Kalimpong yn frynfa yn Ardal Darjeeling, Gorllewin Bengal yn India.
Mae'n gorwedd ar lethrau bryn isel tua 1247m (4,100') i fyny yn rhagfryniau'r Himalaya. Rhed Afon Teesta trwy'r caeau a'r coedwigoedd ar waelod y bryn.
Fel yn achos Darjeeling, mae Kalimpong yn enwog am ei gerddi te.