Jonesville (Gogledd Carolina)
Oddi ar Wicipedia
Jonesville yw'r dref hynaf yn Swydd Yadkin, Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America. Roedd ganddi boblogaeth o 1,464 yn ôl cyfrifiaf 2000. Ond ychwanegwyd 800 o bobl yn 2001 pan unodd ag Arlington, Gogledd Carolina, i'w gwneud y dref ail fwyaf yn y sir.
Mae Afon Yadkin yn gwahanu Jonesville rhag Elkin. Lleolir y dref yn rhafryniau Mynyddoedd Blue Ridge. Mae'n adnabyddus am ei gwinllanoedd.
[golygu] Hanes yr enw
Jonesville yw'r dref hynaf yn Swydd Yadkin. Yn ôl y llyfr hanes lleol An Illustrated History of Yadkin County 1950-1980, gan William E. Rutledge Jr. ei henw cynharaf oedd Martinsborough (1811). Cafodd yr enw ei newid i Jonesville er anrhydedd Hardy Jones (1747-1819), a ymladdodd yn y Chwyldro Americanaidd a bu fyw yn y dref. Ceir cofeb iddo ar lawnt yr eglwys Fethodist leol yn Jonesville.