Sgwrs:Jamaica
Oddi ar Wicipedia
Mae'r unig enghreifftiau o 'Siamaica' ar y we yn dod o fan'ma neu'n ddrychau ohoni (7 enghraifft yn unig). Rwan mae enw'r erthygl yn wahanol i'r categoriau perthnasol hefyd (heb sôn am yr erthygl ei hun). Dylem ymgynghori (ar y dudalen Sgwrs) cyn newid enwau tudalennau mor bwysig â phrif erthygl gwlad. Anatiomaros 18:02, 11 Medi 2007 (UTC)
Dwi o blaid Jamaica - dim tystiolaeth bod unrhywun (heblaw ni!) yn defnyddio Siamaica, ond maen nhw *yn* defnyddio Jamaica (nifer enfawr o enghreifftiau ar dudalennau Cymraeg ar y We). Ddylen ni ddim ymyrryd â'r iaith. Daffy 19:07, 11 Medi 2007 (UTC)
- Efallai fod y sylwadau ar Sgwrs:Y Tir Newydd a Labrador yn berthnasol yma hefyd. Waeth ots os yw 'Jamaica' yn cael ei ystyried yn ffurf "Seisnigaidd" gan rai pobl, dyna'r enw sy'n gyfarwydd i bawb yn Gymraeg. Oni bai fod rhywun yn medru dangos i'r gwrthwyneb - does dim byd ar y we, felly beth am enghreifftiau o lyfrau Cymraeg safonol? - dwi'n meddwl dylem ni symud hyn yn ôl i Jamaica. (Pwynt bach arall - ceisiwch ynganu 'Siamaica'!) Anatiomaros 19:55, 11 Medi 2007 (UTC)
-
- Cytuno mai "Jamaica" ddylai fod; alla i ddim cael hyd i unrhyw enghraifft o "Siamaica" ar Google heblaw o'r wici yma neu safleoedd cysylltiedig, tra mae rhai miloedd o enghreifftiau o "Jamaica" ar dudalennau Cymraeg. Rhion 20:33, 11 Medi 2007 (UTC)
-
-
- Dwi'n mynd i adfer yr hen enw felly. Anatiomaros 20:47, 11 Medi 2007 (UTC)
-