Iwan B
Oddi ar Wicipedia
Cerddor ydy Iwan Benead neu Iwan B. Ganwyd yn ardal Les Lilas o Baris, ar 2 Hydref 1984, yn fab i gerddorwr proffesiynol, dechreuodd astudio piano a theori cerddorol pan oedd yn 5 oed. Pan oedd o'n 9, ymunodd â'r Academi Gerddoriaeth ym Mharis.
Yn 2002, graddiodd a phenderfynodd ddod yn gerddor proffesiynol. Yn 2004 enillodd radd o 'Paris Atla School of Music'. Yn 2007, enillodd ei ddiploma 3rd cycle yn yr Academi. Mae wedi bod ar daith âg artistiaid eraill a chwarae mewn neuaddau cyngerdd megis “7 Lézards,” “Le Baiser Salé” a “New Morning”. Daw ei deulu'n wreiddol o Lydaw, ac yn 2003 penderfynodd ddysgu Llydaweg. Daeth yn hoff o gerddoriaeth yr iaith a dechreuodd ysgrifennu caneuon; gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o fathau cyfoes o gerddoriaeth megis Pop, Rap a Reggae.
Ar 31 Mai 2007 yn Roazhon, enillodd wobr 'dyfodol yr iaith Llydaweg' yn nhrydydd blwyddyn y wobr, yn y categori 'unigolyn preifat'. Deuddydd yn ddiweddarach enillodd y springboard cerddorol cyntaf yn Karaez ar devezh ar brezhoneg (Llydaweg am 'dydd yr iaith'). Mae Iwan wedi dechrau gweithio ar ei albwm cyntaf o dan yr enw 'Iwan B'.