Ike Turner
Oddi ar Wicipedia
Cerddor R&B, pianydd a chynhyrchydd recordiau oedd Izear Luster "Ike" Turner (5 Tachwedd, 1931 - 12 Rhagfyr 2007). Ganwyd yn Clarksdale, Mississippi.
Yn 1951 fe ysgrifennodd Ike y gân "Rocket 88", sy'n cael ei ystyried fel y gân roc a rôl gyntaf. Fe recordiodd e'r gân gyda'i fand "Kings of Rhythm" ond fe gafodd y record ei rhyddhau dan yr enw "Jackie Brenston and the Delta Cats". Jackie Brenston oedd yn chwarae'r sacsoffon yn y band. Fe recordiodd Bill Haley "Rocket 88" hefyd yn 1951.
Yn y 1960 fe briododd Tina Turner ond fe wnaethyn nhw ysgaru yn 1978. Roedd Ike a Tina Turner yn arfer canu deuawdau. Y mwyaf adnabyddus oedd "River Deep - Mountain High" (1966) a'u fersiwn o "I Want to Take You Higher" (1970), cân gan Sly and the Family Stone (1969) yn wreiddiol.
[golygu] Gweler hefyd
- Rhythm a blues
- Roc a rôl
- Ike a Tina Turner