Hywel ap Syr Mathew
Oddi ar Wicipedia
Croniclydd, bardd, milwr ac achydd oedd Hywel ap Syr Mathew (bu farw 1581).
Roedd Hywel yn enedigol o Lanfair Waterdine (Sir Faesyfed ar y pryd, heddiw yn Swydd Amwythig), lle roedd ei deulu yn perchen tir. Mae ei gronigl (Cronicl Hywel ap Syr Mathew) yn darlunio ymateb Pabydd brwd i ddigwyddiadau terfysglyd y Diwygiad a'r Gwrthddiwygiad yng Nghymru a Lloegr. Fel rhan o osgordd Harri VIII, bu'n bresennol yng ngwarchae Boulogne ym 1544, ac mae'n rhoi disgrifiad ohono yn ei gronicl.