Hanes Ffrainc
Oddi ar Wicipedia
Yn y cyfnod clasurol, adnabyddid y dirigaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau neu wladwriaethau Celtaidd. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.
Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaidd, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel foederati gan yr ymerawdwr Rhufeinig Julian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen.
Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.
Yn 1337 dechreuodd rhyfel]] am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.
Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.
Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.
[golygu] Gweler hefyd
|
|
---|---|
Gwladwriaethau sofranaidd |
Albania · yr Almaen · Andorra · Awstria · Belarws · Gwlad Belg · Bosna a Hercegovina · Bwlgaria · Croatia · Denmarc · y Deyrnas Unedig (Yr Alban • Cymru • Gogledd Iwerddon • Lloegr) · yr Eidal · Estonia · y Ffindir · Ffrainc · Gwlad Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · yr Iseldiroedd · Gweriniaeth Iwerddon · Latfia · Liechtenstein · Lithwania · Lwcsembwrg · Gweriniaeth Macedonia · Malta · Moldofa · Monaco · Montenegro · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · San Marino · Sbaen · Serbia · Slofacia · Slofenia · Sweden · y Swistir · y Weriniaeth Tsiec · Wcráin |
Gwladwriaethau trawsgyfandirol | |
Tiriogaethau dibynnol, ardaloedd ymreolaethol, a thiriogaethau eraill |
Abkhazia 2 · Adjara1 · Akrotiri a Dhekelia · Åland · Azores · Crimea · De Ossetia 2 · Føroyar · Gagauzia · Gibraltar · Gogledd Cyprus1 · Grønland4 · Jan Mayen · Jersey · Kosovo · Madeira5 · Nagorno-Karabakh1 · Nakhchivan1 · Svalbard · Transnistria · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl. 2 Yn rhannol neu'n gyfan gwbwl yn Asia, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 3 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Asia. 4 Ar Blât Gogledd America. 5 Ar Blât Affrica. |