Hanes Andorra
Oddi ar Wicipedia
Mae hanes Andorra yn cychwyn gyda'r traddodiad fod Charlemagne (Siarlymaen), brenin Ffrainc, wedi cyflwyno siartr i bobl Andorra yn gyfnewid am eu cymorth yn ei ryfeloedd yn erbyn y Mwslemiaid yn Sbaen. Yn nes ymlaen pasiodd arglwyddiaeth y wlad i Gownt Urgell ac yna i esgob esgobaeth Urgell.
Yn yr 11eg ganrif cododd ymrafael am arglwyddiaeth Andorra a gafodd ei datrys yn 1278 trwy arwyddo paréage, a olygai fod sofraniaeth Andorra yn cael ei rhannu rhwng cownt Foix (yn ddiweddarach, gan frenin Ffrainc ac wedyn pennaeth Gweriniaeth Ffrainc) ac esgob La Seu d'Urgell, yng Nghatalonia. Roedd hyn yn fodd i ddiffinio tiriogaeth a statws Andorra.
Cafodd Andorra ei chymryd drosodd ddwywaith gan Aragon, yn 1396 a 1512. Gyda'r blynyddoedd, pasiodd arglwyddiaeth Andorra i frenhinoedd Navarre, Sbaen. Pan ddaeth Harri o Navarre yn frenin Ffrainc fel Harri IV o Ffrainc, cyhoeddodd edict yn 1607 yn cadarnhau Esgob Urgell a phennaeth Ffrainc yn gyd-dywysogion Andorra.
Yn y cyfnod 1812–13, cymerodd Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc drosodd Catalonia a'i rhannu yn bedair département. Cipiwyd Andorra hefyd a'i gwneud yn rhan o Puigcerdà (département Sègre).
Er i Andorra ddatgan rhyfel ar yr Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ddaru hi ddim cymryd rhan yn yr ymladd. Yn 1933 meddianodd Ffrainc Andorra oherwydd ansefydlogrwydd y wlad. O 1936 hyd 1940, bu corfflu o filwyr Ffrengig yn y wlad oherwydd ofnau am Rhyfel Cartref Sbaen a dylanwad Franco.
Yn yr Ail Ryfel Byd, arosodd Andorra yn niwtral a daeth yn llwybr smyglo pwysig rhwng y Ffrainc Vichy a Sbaen.
Moderneiddwyd cyfansoddiad Andorra yn llwyr yn 1993, pan ddaeth yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig.
|
|
---|---|
Gwladwriaethau sofranaidd |
Albania · yr Almaen · Andorra · Awstria · Belarws · Gwlad Belg · Bosna a Hercegovina · Bwlgaria · Croatia · Denmarc · y Deyrnas Unedig (Yr Alban • Cymru • Gogledd Iwerddon • Lloegr) · yr Eidal · Estonia · y Ffindir · Ffrainc · Gwlad Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · yr Iseldiroedd · Gweriniaeth Iwerddon · Latfia · Liechtenstein · Lithwania · Lwcsembwrg · Gweriniaeth Macedonia · Malta · Moldofa · Monaco · Montenegro · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · San Marino · Sbaen · Serbia · Slofacia · Slofenia · Sweden · y Swistir · y Weriniaeth Tsiec · Wcráin |
Gwladwriaethau trawsgyfandirol | |
Tiriogaethau dibynnol, ardaloedd ymreolaethol, a thiriogaethau eraill |
Abkhazia 2 · Adjara1 · Akrotiri a Dhekelia · Åland · Azores · Crimea · De Ossetia 2 · Føroyar · Gagauzia · Gibraltar · Gogledd Cyprus1 · Grønland4 · Jan Mayen · Jersey · Kosovo · Madeira5 · Nagorno-Karabakh1 · Nakhchivan1 · Svalbard · Transnistria · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl. 2 Yn rhannol neu'n gyfan gwbwl yn Asia, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 3 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Asia. 4 Ar Blât Gogledd America. 5 Ar Blât Affrica. |