Calais
Oddi ar Wicipedia
Porthladd a dinas yng ngogledd Ffrainc, sous-préfecture yn département Pas-de-Calais a'i dinas fwyaf, yw Calais. Datblygodd yn un o'r borthladdoedd pwysicaf y Môr Udd am ei bod yn gorwedd ar y llwybr byrraf dros y Sianel rhwng Ffrainc a Lloegr (34 km / 21 milltir). Mae gan y ddinas (commune) boblogaeth o 77,333 (1999) neu 125,584 am yr ardal fetropolaidd (aire urbaine).
Yn y Rhyfel Can Mlynedd cafodd ei gwarchae a'i chipio gan y Saeson dan Edward III yn 1346 ac arosodd yn nwylo'r Saeson fel eu troedle olaf yn Ffrainc hyd 1558 pan gipiwyd y dref yn ôl gan y Ffrancod dan François de Guise. Gwasanaethodd yr hanesydd Cymreig Elis Gruffydd, awdur Cronicl Chwech Oes y Byd, sy'n cynnwys Hanes Taliesin, yng ngarsiwn Calais am gyfnodau o 1529 hyd tua 1552. Cafodd Calais ei bomio'n drwm yn yr Ail Ryfel Byd wrth i luoedd Prydain geisio amddiffyn y milwyr yn ceisio ffoi i Loegr o Dunkerque.
Mae llongau fferi yn hwylio'n rheolaidd rhwng Dofr a Chalais. 6 km y tu allan i'r dref ceir termimws Ffrengig Twnel y Sianel.
[golygu] Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Calais
- (Ffrangeg) Agglomération Yr ardal leol
- (Ffrangeg) Gwybodaeth am y dinas a'r porthladd
- (Saesneg) Porth Calais