Gwartheg Morgannwg
Oddi ar Wicipedia
Credid bod gwartheg Morgannwg wedi darfod ym Mhrydain ym mlynyddoedd cynnar y 1920au. Ond ym 1979 daethpwyd o hyd i fuches yn Sussex. Prynwyd y stoc cyfan o 11 a daethpwyd â hwy i Barc Gwledig Margam er mwyn ceisio sicrhau y byddai'r rhywogaeth yn parhau. Mae'r fuches yn gryf o hyd ac mae dros 200 o wartheg wedi'u magu yno hyd yn hyn. Credir bod gwartheg Morgannwg yn perthyn i rywogaeth gwartheg Pinzgaur o ganol Ewrop, a bwriedir ceisio canfod teip genetig gwartheg Morgannwg er mwyn cadarnhau hyn. Os profir bod perthynas rhyngddynt, bydd modd cyflwyno gwaed newydd i'r stoc a bydd dyfodol y rhywogaeth yn gadarn.
Croen lliw castan sydd i wartheg Morgannwg a streipen wen lydan ar hyd eu cefn, i lawr eu cynffon, ac o dan eu bol.
Roedd gwartheg Morgannwg yn gyffredin yn hen siroedd Morgannwg, Mynwy, a Brycheiniog, ond prin y gwelid hwy i'r gorllewin o afon Dulais. Dywedid bod y buchod yn fuchod godro da a roddai laeth bras. Roedd Sior III, brenin Lloegr, yn hoff ohonynt ac roedd ganddo fuches ar ei fferm yn Windsor. Roedd ganddo ychain Morgannwg hefyd at waith fferm. Nid ystyrid bod y rhywogaeth yn rhoi llawer o gig, er nad oedd ansawdd y cig a roddai yn eisiau. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, deuai'n fwyfwy cyffredin i groesi gwartheg Morgannwg â rhywogaethau eraill fel gwartheg Henffordd, gwartheg Swydd Aeron, a gwartheg byrgorn. Cafwyd mwy o gig yn sgil y croesi, er yn ôl rhai, roedd hyn ar draul ei ansawdd. Gydag amser, bu bron i'r rhywogaeth ddiflannu oherwydd croesfridio a ffermwyr yn gwerthu'u buchesi i brynu gwartheg Henffordd neu wartheg byrgorn.
[golygu] Cyfeiriadau
R J Colyer, 'Some Welsh breeds of cattle in the nineteenth century', The Agricultural History Review