Gerwyn Williams
Oddi ar Wicipedia
Mae Gerwyn Williams (ganed 1963) yn fardd Cymraeg a enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1994.
Magwyd ef yn Llangefni ac yn y Trallwng. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg. Cafodd swydd fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, lle daeth i arbenigo mewn llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
[golygu] Gweithiau
- Colli cyswllt (1984)
- Cydio'n dynn (1997)
- Y rhwyg : arolwg o farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (1993)
- Rhyddid y nofel (golygydd) (1999)
- Tafarn tawelwch (2003)
- Tir neb : rhyddiaith Gymraeg a'r Rhyfel Byd Cyntaf (1996)
- Tynnu gwaed (1983)